Pan fwy'n myned drwy Iorddonen,
Angau creulon yn ei rym,
Aethost drwyddi gynt dy hunan,
Pam yr ofnaf bellach ddim?
Buddugoliaeth!
Gwna i mi weiddi yn y llif.
Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw'r gwaith a wnest erioed;
Ti gest angau, Ti gest uffern,
Ti gest Satan dan dy droed:
Pen Calfaria,
Nac aed hwnnw byth o'm cof.
William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Agor y ffynhonnau melus Arglwydd arwain trwy'r anialwch Cymer Iesu fi fel 'r ydwyf Gwaed dy groes sy'n codi i fyny Ymddiriedaf ynot Iesu |
When I am going through Jordan,
Cruel death in its force,
Thou went through it once thyself,
Why shall I fear anything henceforth?
Victory!
Make me shout in the flood.
I shall trust in thy power,
Great is the work thou ever did;
Thou got death, thou got hell,
Thou got Sataan undter thy foot:
The head of Calvary,
That shall never go from my memory.
tr. 2024 Richard B Gillion
|
|